English

CD'iau/Casetiau

 

Mae Cymru’n adnabyddus iawn am ei cherddoriaeth. O werin i gorau meibion ac o unawdwyr byd-enwog i delynwyr. Yma, yn Llyfrau’r Ddraig, ceisiwn gadw stoc o amrywiaeth eang o’r teitlau mwyaf diweddar fydd yn ateb pob chwaeth ond gallwn archebu’r rhan fwyaf o CD’iau sydd ar gael.

Peidiwch â phetruso gwneud ymholiad.

Bryn Terfel yw un o’n hunawdwyr mwyaf talentog a mwyaf adnabyddus, cadwn stoc sylweddol o’i deitlau CD a DVD.

Lleolwyd un o gorau meibion gorau ac mwyaf llwydiannus Cymru, yma yn Llanelli. Maent wedi ennill droeon yn y Genedlaethol ac yn nghystadleuthau eraill. Cewch gyfle i wrando ar eu canu ar ei orau ar ein detholiad o CD’iau a fideo.

Mae Dylan Thomas yn fythol-boblogaidd, ac mae gennym stoc eithaf o’i farddoniaeth a storïau ar CD/caset (yn ogystal ac mewn llyfr).

Cofiwch hefyd fod CD’iau nawr ar gael i’r plantos . . .

Mae’n stoc yn ymestyn o Ar Log (gwerin) i Zabribski (roc) ac o Max Boyce to Wenglish.

Cadwn stoc o deitlau gan amryw gwmnïau o Ankst ac A3 i Sain, EMI a Decca.

Cofwich! Peidiwch byth a phetruso i’n holi ynglŷn â theitl penodol.

gwybo@llyfraurddraig.com / ffôn/ffacs +44 ( 0)1554 759894