|
|
|
Symbyliad enw’n siop, yn amlwg, yw’r creadur rhyfeddol hwwnw ar faner Cymru.
Ond o le daw symbol llachar y ddraig “pasant” . . . ?
Dywedir i’r Rhufeiniaid ddefnyddio “draco” yn faner. Dyfais ar bolyn â phen fel draig a thiwb hir o ddefnydd y tu ôl. Wrth i’r milwyr garlamu i’r gad, ymestynnai’r “corff” wrth iddo lenwi â gwynt ac roedd chwiban yn y pen a wnâi sŵn. Weithiau roedd marwydos yn y pen a chwythai allan fwg.
Gwnaeth yr Ymherawdwr Trojan ddatganiad yn y flwyddyn 104 fod y “draco” i’w chario gan bob mintai ac felly y daeth y ddraig i Gymru.
Ar ôl i anturiaethau Macsen Wledig (Magnus Macsimus) arwain at Gymru annibynnol arhosodd y ddraig yn symbol ar y wlad. Yn ddiweddarach defnyddiai Harri Tudur faner y ddraig ym mrwydr Bosworth. Yn ystod teyrnasiaeth y Tuduriaid, arhosodd y ddraig goch ar y faner frenhinol ond gyda dyfodiad y Stiwardiaid cafodd ei dileu i wneud lle i’r Uncorn.
Dyna’r sefyllfa tan 1953 pan orchmynnodd y Frenhines fod bathodyn brenhinol Cymru i gynnwys, o dan y goron, y ddraig goch ar gefndir gwyrdd ac arian. Cyplyswyd hyn gyda’r arwyddair “Y Ddraig Goch a Ddyry Gychwyn”. Dechreuodd y Swyddfa Gymreig (a grëwyd yn 1951) ddefnyddio’r faner hon ac ar Chwefror 28ain 1958 daeth orchymyn gan weinidog Cymru taw dim ond y Ddraig Goch oedd i hedfan dros adeiladau’r llywodraeth yng Nghymru, a lle bo’n addas yn Llundain.
Erbyn heddiw adnabyddir y Ddraig Goch yn arwyddlun genedlaethol Cymru ac mae i’w gweld yn cwhwfan yn falch ym mhobman yng Nghymru: ond hefyd lle bynnag y bo Cymry ar draws byd.