![]()
Buodd Euryn Dyfed, percehnnog Llyfrau’r Ddraig, yn gweithio yn yr hen siop Gymraeg yn Llanelli am dros 15 mlynedd. Pan gaeodd honno ym mis Ebrill 2000, penderfynnodd Euryn fentro ar ei liwt ei hun ac agor siop newydd sbon yn y dref ac agorodd Llyfrau’r Ddraig ei drysau ym Mis Mai 2000. Wedi’r cyfan, ni ellid gadael Tre’r Sosban heb Siop Gymraeg yn hir!
Rhyfeddod ym myd siopau llyfrau Cymraeg yw Euryn, fodd bynnag. Mae Euryn yn hannu o Newcastle upon Tyne, yr Hen Ogledd Celtaidd - Gododdin; ac wedi dysgu Cymraeg mae e.
Yn ei eiriau ei hun: "Fe ddysgais Gymraeg o’r unig lyfr oedd ar gael yn Llyfrgell Ganolog Newcastle; iaith yr hen Feibl mwy neu lai. Doedd neb arall eisiau ei fenthyg ac felly fe’i cefais ar fenthyciad parhaol. Wedi darganfod Pobl y Cwm ar BBC North East amser cinio, a gwrando a gwrando a gwrando arni, meddyliais nad o’n i wedi dysgu Cymraeg o gwbl! Ar ôl symud i Lanelli, mynychais wersi nos i ddod i mewn i’r iaith lafar. Roedd sylwi ar y gwahaniaethau rhwng yr hyn ro’n i wedi’i ddysgu a’r ffordd yr oedd pobl leol yn siarad yr iaith wedi ennyn diddordeb mewn iaith yn gyffredinol ynof ac es i ‘mlaen i wneud gradd BA yn y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ganolbwyntio ar yr ochr ieithyddol/hanesyddol. Dysgais hefyd Wyddeleg a Llydaweg tra yn y coleg (Aberystwyth).
Erbyn hyn rwy’n gwbl rhugl fy Nghymraeg, yn meddwl yn Gymraeg, ac hyd yn oed yn gorfod gofyn i gyfeillion, ‘Beth yw . . .YN SAESNEG?’ Mae’r diddordeb mewn tafodieithoedd y Gymraeg yn para hyd heddiw ac mae ’da fi ddiddordeb mawr ym myd llenyddiaeth Gyrmaeg felly rwy’n lwcus iawn i weithio gyda llyfrau."
Nawr, wedi’i hen sefydlu, mae’r siop yn mynd o nerth i nerth. Rŷ’n ni wedi cael llawer o ddigwyddiadau arbennig gan gynnwys sesiynnau llofnodi, ymweliad gan Sali Mali a grŵp lleol Baldande yn chwarae set. Os byddwch byth yn Llanelli, cofiwch alw heibio i’n gweld.